Actions

Work Header

Dychryn gyda'r nos

Summary:

Mae Morgan yn addoli duwiau'r môr.

Notes:

This is my love letter to the Duolingo: Welsh course.
Fe ddaw'r dydd a bydda i'n sgrifennu'r stori gorau yn y hanes Cymraeg, ond nid heddiw yw'r dydd 'ma.
Mwynhewch.

Chapter 1: Pennod Un

Chapter Text

Roedd y noson yn tywyll ac yn stormus. Disgynnodd y diferion glaw yn drwm ac yn ymosodol yn erbyn y ffenestr, a roedd y coed afalau yn yr ardd yn sgrechian o dan y dŵr a ddaeth o'r nen, ond roedd Dylan yn anymwybodol o hynny tan caeth o ei ddihuno gan ei ffôn yn canu.

'Beth ar y ddaear,' mwmianodd wrth iddo ymbalfalu am y teclyn swnllyd wrth ei wely.

‘Dylan!’ daeth llais Gareth o’r ystafell nesa. Edrychodd Dylan ar y cloc digidol ar y bwrdd. Roedd hi’n gynnar iawn iawn.

‘Sori!’ bloeddiodd yn gryg. O’r diwedd caeth gafael ar y ffôn. ‘Beth?’ holodd yn ddig.

‘Dylan…’ gryddfanodd y llais ar yr ochr arall, ‘Dylan, mae rhywun wedi torri i mewn i fy nhŷ…’

Roedd Dylan yn hollol effro’n sydyn. Eisteddodd yn syth ar y gwely.

‘Owen? Beth ddigwyddodd? Ti’n iawn?’

‘Dwi’n iawn, Dylan. Dwi’n iawn, ond…’

‘Wyt ti wedi galw’r heddlu eto?’

‘Nac ydw, ro’n i’n rhy ofnus. Dylan, wnei di ddod yma, plis? Nid oes gyda fi ffrindiau eraill yma eto, y ffrindiau sy’n deall…’ roedd Dylan eisoes yn gwisgo amdano'n frysiog. Ble oedd ei gôt law e?..

‘Yn deall beth, Owen? Ti’n siŵr fy mod i’n deall?’ clywodd ddrws yr ystafell yn agor ac edrychodd i fyny. Safai Gareth yn ei wisg nos doniol yno a syllu arno’n holgar.

Ochneidiodd Owen yn araf.

‘Maen nhw wedi dwyn y pannas,’ meddai e.

***

Doedd dim car gan Dylan. Roedd e'n eco-gyfeillgar. Ac yn dlawd. Ac yn gwario gormod o arian ar y colur newydd. A doedd e ddim hyd yn oed angen colur, roedd e'n olygus heb golur - fel nawr, ar engraifft, roedd e'n...

'Tro i'r dde yma,' meddai Dylan gan bwyntio.

'Siŵr iawn, syr, ar unwaith, syr,' meddai Gareth gan ddylyfu gên a throi'r llyw.

Roedd car gan Gareth. Roedd e'n oedolyn cyfrifol gyda char a gyda gwaith yn y bore a roedd yr antur fach 'ma'n ddiamheuol dwp.

'Beth sy'n bod ar Owen, beth bynnag?' gofynnodd. Doedd e ddim yn adnabod Owen yn dda iawn, ond roedd Dylan wedi sôn am ei fod e wedi dod o Norwy tua blwyddyn yn ôl. Ro'n nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Ac mai Dylan oedd y cyntaf a alwodd Owen pan roedd e mewn perygl. Ddiddorol iawn.

'Mi wna i ddweud bobeth wrthot ti ar ôl ini siarad ag Owen. Dwi'n addo,' atebodd Dylan.

'Pam ddim nawr?'

'Dim fy nghyfrinach yw hi.'

Gwrandawon nhw ar y glaw yn bwrw yn erbyn to'r car. Ddiddorol iawn.

***//***

O'r diwedd, wedi gyrru am ddwy awr yn y tywydd dychrynllyd cyrraeddodd o lan y môr. Cwympai tonnau ar y creigiau'n swnllyd a rhuodd y gwynt ond clywodd o ddim ond y llais yn ei ben yn canu,

rho nhw i fi rho nhw i fi nawr rho nhw i fi nawr nawr nawr rho nhw i fi nawr

Stryglodd i tu allan ac agorodd gist ei gar.

Doedd dim y tu mewn.

Chapter 2: Pennod dau

Chapter Text

Roedd hi fel duwies.

Cymerodd gip ar y beth a orweddai ar sedd ôl y car ac wedyn ar ei chi a oedd yn anadlu’n swnllyd drwy’i drwyn hir ar y sedd flaen. Ailystyriodd.

Wel, dim fel duwies, fel... model glamoraidd sy'n gweithio ar y brigdrawst. Na.

Ond fe oedd hi'n teimlo'n wych, yn teimlo'n ffantastig. Roedd hi wedi gwneud rhywbeth ac yn awr basai'r byd yn para am ddydd arall – basai Owen yn hapus. Pe bai hi'n ddigon da.

Ac roedd Megan yn dda iawn.

***

Doedd Gareth erioed wedi yfed te mor ofnadwy. Doedd e ddim yn hoff iawn o de llysieuol, ond gwyddai fod... rhinweddau ynddo. Ond ni allai hyd yn oed llyncu y hylif 'ma, roedd e'n blasu fel sanau budr.

'Mae'r te'n hyfryd, Owen,' meddai Dylan a gosododd y baned ar y bwrdd yn ei flaen.

'Celwyddog drygfawr', meddyliodd Gareth â'i geg yn llawn.

'A, diolch. Wyt ti eisiau paned arall?' ofynodd Owen.

'Dim diolch,' atebodd Dylan yn gyflym. Roedd yn edrych ychydig yn wyrdd.

Dyn rhyfedd oedd Owen, penderfynnodd Gareth. Atgoffai o ystlum â’i ffrâm esgyrnog ac fel yr ystlum yn cael ei orfodi i gadw ei ben i fyny roedd e’n edrych yn lletchwith iawn. Roedd ei wallt yn olau, ond am ryw reswm roedd ei fwstas yn fflamgoch. Heb sôn am y stori anarferol ‘ma…

Poerodd y hylif yn ôl yn ei gwpan yn ofalus.

‘Felly, Owen…’ meddai, ‘Gwarchodd dy deulu di’r pannas ‘ma ers canrifoedd, oherwydd… basai’r pannas yn gwyreddu dymuniad y ddyn fydd yn eu bwyta nhw. Ac basai hynny’n rhy beryglus.’

‘Dyma’r broffwydoliaeth,’ nodiodd Owen.

‘Ie. Ac mae Dylan yma oherwydd y…’

‘Broffwydoliaeth,’ ochneidiodd.

‘Y broffwydoliaeth. Siŵr iawn. Dylan, ga i air â ti? Yn y coridor.’

Aeth Dylan i ganlyn Gareth i tu allan i’r ystafell a chaoedd y drws ar ei ôl.

‘Gwranda, Gareth, dydy hi ddim yn swnio’n synhwyrol iawn…’

‘Dim yn synhwyrol o gwbl, Dylan,’ cyfaddefodd Gareth.

Roedd goleuadau y coridor yn wan ac edrychai wyneb denau Dylan yn sâl ac yn drist iawn, ond gobeithiai Gareth taw’r te ofnadwy oedd ar bai. Am beth amser gwyliodd y ddau y pysgod yn nofio’n ddiog yn yr acwariwm mawr ger y wal. Nid oedd llawer o arwyddion bod rhywun wedi torri i mewn i’r tŷ, ond pan gyrhaeddon nhw sylwodd Gareth bod clo’r drws wedi cael ei ddifrodi ac roedd y tu mewn yn llawn o olion traed budr.

‘Cyn i fi gwrdd ag Owen… ces i freuddwydion rhyfedd bron bob nos am fis. Hunllefau,’ meddai Dylan yn dawel o’r diwedd.

‘Ni ddywedaist dim!’

‘Hunllefau am pannas! Fasai neb yn dweud dim byd!.. Am pannas… a dŵr, tonnau enfawr o dŵr,’ chwarddodd. ‘Tybed a beth basai Freud yn ddweud am hynny.’

‘Mae’n dibynnu ar faint y pannas a thymherydd y dŵr, am wn i…’

Chwarddodd Dylan eto.

‘Wn i ddim pwy a ddywedodd wrthot ti taw ti yw’r mwya doniol ond nid yw’n wir,’ meddai’n annwyl. ‘Beth bynnag, daeth y hunllefau i ben ar ôl i Owen ymuno â’n swydd - ac ailgychwynnen nhw ddau ddiwrnod yn ôl. Dyna pam dwi’n credu bod rhywbeth ar droed. Ond does dim rhaid i ti aros amdana i neu’n credu ni…’ Edrychodd ar ei watsh arddwrn, ‘Y nefoedd, bydd dy waith yn dechrau’n fuan! Dylet ti fynd…’

Ystyriodd Gareth ei fywyd am ddwy eiliad.

‘Paid â phoeni, ffonia i’r garej, fe fyddan nhw’n ymdopi heddo i heddiw. Gwna i roi lifft i ti ag Owen os bydd angen,’ meddai’n hawdd.

Roedd e’n gwylio’r pysgod a bu bron iddo neidio pan gyffyrddodd Dylan â’i fraich.

‘Diolch, rwyt ti’n garedig iawn,’ meddai Dylan ac ochneidiodd. ‘Dylen ni fynd yn ôl.’

‘Dim problem,’ atebodd Gareth a’i galon yn curo’n wyllt ac aethon nhw yn ôl i ystafell fyw Owen. Eisteddai e ar y soffa yn gwylio rhyw rhaglen gomedi ar y teledu ac yn edrych hyd yn oed yn fwy lletchwith nag yn gynharach.

‘Pa fath o de yw hyn, beth bynnag?’ ofynnodd Gareth yn sgyrsiol.

‘Y te gorau yn y byd – y te pannas,’ atebodd Owen. Rhythodd Dylan a Gareth arno fo.

‘A! Y pannas cyffredin. Peidiwch â phoeni, dim dymuniadau i chi,’ gwenodd arnyn nhw’n anesmwyth. ‘Beth am gwpan arall?..’

***

‘Nid yw’n bosibl, Morgan! Do’n nhw ddim yn gallu dianc o gist y car caeëdig! Llysiau ydyn nhw, ddim aelodau o SEALs Llynges!’

Roedd Celyn yn ddig, a chwarae teg iddi roedd rhesymau ganddi. Treulion nhw llawer o amser yn cynllunio’r lladrad ‘ma ac roedden bron at eu hamcan terfynol, ond… doedd dim rhaid iddi hi sgrechian fel hynny. Dylai cyd-droseddwyr barchu y naill i'r llall.

‘Roedd rhaid i fi ddefnyddio’r tŷ bach,’ meddai’n crwt.

‘Beth!?’

‘Paid â phoeni. Gwnes i parcio’r car o flaen i’r camera ger y bwyty. Ro’n i wedi bod yn y bwyty ‘ma o’r blaen ac efallai y gallwn ofyn i’r perchnogion ddangos y recordiau ini. Dyn ni’n mynd i ddod o hyd i ladron yn fuan iawn.’

Ystyriodd Celyn ei eiriau.

‘Pa fwyty oedd hwnnw?’ gofynnodd yn ei llais normal.

‘Y Ddraig Goch. Mae eu tŷ bach nhw’n gyfforddus iawn, beth bynnag…’

‘Y camera cyflymder ger y Ddraig Goch??’ ac yn awr roedd Celyn yn sgrechian eto. Bendigedig. ‘Wyt ti ddim yn dilyn y newyddion o gwbl?? Fe gaeth y camera cyflymder ‘ma ei gnoi gan arth ddoe!!’

Chapter 3: Pennod tri

Chapter Text

‘Rhaid iti ffonio’r heddlu,’ meddai Dylan drachefn.

‘Mae’n gas gen i’r heddlu,’ gwingodd Owen.

Ochneidiodd Gareth.

Roedd hi tua phump y bore. Nid oedd Dylan am ddadlau gydag Owen gan ei fod yn gwybod y gallai Owen fod yn styffnig ac hyd yn oed yn ymosodol weithiau, yn enwedig gyda’r pannas dan sylw. Ond roedd ei galon yn curo’n miniog yn ei wddf fel yn ei hunllefau a theimlai fel ei fod mewn rhyw le trothwyol. Roedd rhywbeth poenus ar fin digwydd.

‘Iawn, dim heddlu, ond…’

Neidiodd y tri yn eu hunman wrth clywed y drws ffrynt yn agor. Mewn ychydig eiliadau roedd y drws ystafell fyw yn ei wthio’n llydan agored.

‘Maddau i mi, Owen!’ meddai llais benywaidd a gwelon nhw wraig ifanc mewn gwisg heddlu’n camu i mewn. Daeth ci i’w chanlyn.

‘Megan!’ gwaeddodd Owen yn ddig.

‘Be’ goblyn, dwi erioed wedi gweld drwyn ci mor hir,’ meddyliodd Dylan gan godi ar ei draed. Cymerodd gip ar Gareth a gwyddai fod e’n meddwl yr un peth.

‘Mae’n ddrwg iawn gen i, Owen. Ond ugain mlynedd sydd oddi ar y dydd ‘na, rhaid iti faddau i mi nawr,’ meddai’r wraig a chamodd tuag at Owen yn araf. Roedd hi’n dal bag plastig yn un o’i dwylo.

‘Beth ar y ddaear sy’n digwydd?’ gofynnodd Gareth.

‘Fy chwaer fach yw hi, y gelwyddgi Megan,’ poerodd Owen. ‘Pan ro’n ni’n ifanc, gwnaeth hi ddwyn un o’r pannas hud a’i fwyta. A phan sylweddolodd ein rhieni bod un panasen ar goll, penderfynon nhw taw fi oedd ar fai. A dyweddodd hi DDIM BYD i’m achub fi!’

‘Ro’n ni’n mor euog a’n gilydd, Owen,’ meddai Megan yn dawel. ‘Fe wnaethon ni ddwyn y panasen gyda’n gilydd a ro’n ni am fwyta hanner pannas yr un, ond gwnest ti troi’n llwfr rhag gwneud hynny.’

Roedd ymennydd Dylan yn dechrau brifo. Roedd e’n glywed sŵn y tonnau yn ei ben eto.

‘Pam rwyt ti yma?’ ofynnodd iddi hi. Edrychodd Megan arno.

‘Heddwas dw i. Roedd fy adran i’n ymchwilio i gwlt duwiau’r môr yng Nghymru a ro’n ni’n sylweddoli bod aelodau’r cwlt ‘ma’n chwilio am ryw arteffact i’w aberthu. Meddyliais i am y pannas ar unwaith.’

‘Wel, rwyt ti’n hwyr. Fe gaeth y pannas eu dwyn heddiw,’ meddai Owen yn biwis.

‘Do, fe wnaethon nhw ddwyn y pannas,’ cytunodd Megan. ‘Ond gwnes i ddwyn y pannas oddi arnyn nhw,’ estynnodd y bag i Owen. ‘Dyma nhw.’

***

Ni allai Celyn credu ei bod hi wedi meddwl bod Morgan yn bishyn unwaith. Pan oedd hi newydd gyfarfod ag ef, roedd e’n ddyn dirgel a glwysai llais y môr, un o’r ychydig yn eu chwlt. Roedd e’n gyfoethog hefyd ac yn hoff o ddangos lluniau ei geffyl i bobl eraill. Ond yn awr gwyddai fod e’n dda i ddim mewn argyfwng.

‘Beth maen nhw’n dweud?’ goffynnodd yn ddiamynedd.

‘Dydyn nhw ddim yn hapus,’ mwmianodd Morgan.

‘Wel, rhaid bod hynny’n amlwg erbyn hyn…’

Edrychodd drwy’r ffenestr. Ar ôl cweryl hir yn y glaw roedden nhw’n wlyb at eu croen a phendyrfenon trafod eu chynlluniau mewn caffi gyda golygfa braf o’r môr stormus. Roedd Celyn yn caru’r môr. Roedd y môr yn ei hysbrydoli a’i chyffroi ac roedd hi eisiau gwneud rhywbeth i roi diolch iddo a’i ddiogelu rhag pobl eraill. Ond ni wyddai sut i wneud hynny cyn iddi hi ymuno â’r cwlt, a daeth y cwlt yn deulu iddi. Ro’n nhw’n trefnu teithiau cwch padlo a picniciau ac yn myfyrio gyda’u gilydd. Ond yn gyntaf oll, gwyddan nhw sut i siarad gyda duwiau’r môr. Efallai, ryw ddiwrnod bydd hi’n gallu gwneud hynny hefyd…

Celyn sy ‘ma?

Roedd hi fel y llanw lleiaf yn y byd ond rywsut clywodd hi’r sŵn dros y cerddoriaeth uchel yn y caffi.

anrhydedd mawr yw hi, ferch, dyn ni ddim yn siarad gyda merched fel arfer ond dyn ni wedi cael llond bol o’r llipryn ‘ma

‘Celyn? Mae dy lygaid yn tywynnu’n rhyfedd. Ti’n iawn?’ gofynnodd Morgan.

‘Bydd ddistaw,’ meddai’n ddig. Roedd ei dwylo’n crynu.

dyn ni’n gallu teimlo’n haberth ger y dŵr a dyn ni mynd i eich arwain chi yno ond bydd rhaid i chi aberthu’r peth ‘ma’n fuan gan ei bod e bron cyn hyned a’r môr

‘Ni fydda i’n eich siomi,’ meddyliodd yn gryf. Cododd ar ei thraed.

‘Tyrd,’ meddai wrth Morgan. ‘Dyn ni’n mynd am dro.’



Chapter 4: Pennod pedwar

Chapter Text

Do’n nhw ddim ar gael consensws.

‘Nac ydyn, dyn ni ddim yn gallu eu anrhegu i’r Eisteddfod Genedlaethol,’ meddai Owen gan ysgwyd ei ben. Buon nhw’n ystyried y lle gorau i gadw’r pannas yn ddiodef.

‘Pam lai?’ gofynnodd Megan. ‘Gellid eu defnyddio yn lle Cadair yr Eisteddfod. A basen nhw eu diogelu rhag lladron yn well na ti.’

‘Na. Beth am Lywodraeth Cymru?’ awgrymodd Dylan wrth iddo fwytho i gi Megan a oedd yn orwedd ar y soffa â’i ben ar ei lin.

‘Dwi ddim yn cytuno. Dyn ni ddim yn gallu ymddiried pŵer hyn i wleidyddion,’ meddai Owen. ‘Maen nhw’n troi pethau dda yn ddrwg.’

‘Beth ydy dda beth bynnag,’ meddai Gareth.

Clywsant nhw sŵn y ddrws ffrynt yn agor.

‘O, cer i gra-…’ cyn i Owen orffen agorodd drws yr ystafell yn chwap.

‘Gogoniant i Dduwiau’r Môr!’ gwaeddodd merch fer a chamu i mewn. Disgleiriodd tân glas gwyllt yn ei llygaid.

‘Gogoniant i Dduwiau’r Môr,’ mwmianodd y dyn a ddod ar ei hôl. Roedd yn edrych yn flin.

‘Celyn Jones a Morgan Evans! Dwi’n eich harestio chi am ladrata pannas Owen’, meddai Megan wrth neidio ar ei traed ac yn anelu ei gwn at y ddau.

‘Peidio!’ gwaeddodd rhywun. Safodd pawb yn eu hunlle.

‘Pwy ddywedodd hynny?’ gofynnodd Owen.

‘Ni,’ atebodd llais annaearol. Edrychodd y pawb ar yr acwariwm yn y coridor. Roedd un o’r pysgod yn syllu arnyn nhw drwy’r wal wydr yn astud. Roedd ei lygaid yn tywynnu’n las hefyd. ‘Ni yw duwiau’r môr a rydyn ni’n defnyddio plentyn y môr ‘ma i siarad ar ein rhan ni.’

‘Be ffwc,’ meddai Gareth yn wan.

‘Dynion daearol,’ meddai’r pysgodyn, ‘does dim rhaid i ni ymladd. Dych chi ddim yn deall sut y cewch chi defnyddio pŵer y pannas ‘ma oherwydd y gwendid eich meddwl… Ond fel duwiau gallen ni creu hudoliaeth annealladwy gyda’r pannas, a byddwn ni’n talu i chi’n dda am eich chydweithrediad chi.’

‘Gogoniant i Dduwiau’r Môr!’ llafarganodd Celyn a Morgan gyda’u gilydd.

‘Na!’ gwaeddodd Owen. ‘Gwarchodd fy nheulu i’r pannas ‘ma ers canrifoedd! Faswn i byth yn rhoi’r pannas i chi!’

‘Mae’r dynoliaeth yn gwenwyno’r môr ers canrifoedd. Mae’n hen bryd ini dalu yn ei ôl i’r môr, on’d yw hi?’ meddai Celyn.

‘Am ryw reswm dwi’n credu basai’r diwedd o’r ‘hudoliaeth annealladwy’ ‘ma’n marwolaeth y ddynoliaeth,’ meddai Dylan yn ofalus.

‘Ond dim marwolaeth y rhai etholedig!’ gwaedodd Morgan yn sydyn a neidiodd at Megan a chydio yn ei gwn.

Symudodd y pawb ar yr un pryd. Rhuthrodd Celyn at Owen a gofleidiodd ef y bag plastig gyda’r pannas i’w frest i’w guddio. Gan nâd ofnadwy llamodd ci Megan ar Morgan a cauodd ei ddannedd diddiwedd ar ei goes. Taflodd Dylan a Gareth eu hunain i ganol y frwydr rhwng Owen a Celyn a dechreuodd y dŵr yn yr acwariwm ferwi a sgrechiodd pysgod i gyd yn uchel.

Wedyn, daeth sŵn yr ergyd gwn.

‘Dylan!’ ebychodd Gareth.

Neidiodd Morgan yn ôl a thaflodd ei ddwylo i fyny mewn braw. Gafaelodd Megan yn ei gwn o’i law ac ei anelu ato fe. Camodd Celyn i ffwrdd oddi wrth Owen a chudiodd ei ceg â’i llaw.

Disgynodd Dylan ar ei liniau a chydio yn ei ysgwydd chwith. Roedd e’n gwaedu’n helaeth.

‘Dylan,’ sibrydodd Gareth eto. Edrychodd Dylan arno a rholiodd ei lygaid yn ôl yn ei ben. Cwympodd i’r llawr yn dawel.

‘Galw’r ambiwlans!’ gwaeddodd Celyn. Neidiodd Owen ar ei draed a rhedodd i’r coridor i gael gafael ar ei ffôn llinell dir.

Doedd Gareth ddim yn gwrando arnyn nhw. Aeth ei deimladau’n drech nag ef a cydiodd yn y bag a adawodd Owen ar y soffa a thynnodd y pannas allan. Ro’n nhw’n bach fel botymau ac yn crynchlyd ac yn drewi  fel y gingroen. Do’n nhw ddim yn edrych yn hudol o gwbl. Gwthiod nhw i gyd i’w geg a llynchodd yn farus.

paid â marw, Dylan, meddyliodd yn ffyrnig, paid â marw, plîs, rwyt ti fy ffrind gorau yn y byd, rwyt ti…

Teimlodd fel pe bai wedi llyncu haul bach. Roedd hi’n amhosib. Roedd Dylan yn hoff iawn o ffiseg a ffisioleg. Allai dyn ddim fwyta haul, hyd yn oed yr un bach iawn.

paid â marw, paid â marw, paid â marw, meddyliodd yn styfnig.

Roedd ei stymog yn troi. Galwodd rhywun ei enw, ac yna daeth popeth yn ddu.

Chapter 5: Epilog

Notes:

(See the end of the chapter for notes.)

Chapter Text

Dydd heulwen canol hydref oedd hi. Roedd yr awyr yn iach ac yn clir. Roedd hi’n dawel yn y fynwent ond clywodd Megan lleisiau eglwyswyr yn y pellter. Edrychodd arnyn nhw a chydnabod ffigwr cyfarwydd y gweinidog leol. Cododd ei llaw arno mewn cyfarchiad, ond roedd e’n siarad â rhywun ac ni sylwodd arni. Ochneidiodd ac edrychodd i lawr at y bryncyn bach o’i blaen.

‘Oedd rhaid iti wneud hynny?’ gofynnodd.

Ffroenodd Owen.

‘Oedd. Pysgod dda roedden nhw. Maen nhw’n haeddu claddu go iawn.’

‘Mewn mynwent dynol?’

‘Does dim mynwent ar gyfer pysgod.’

Dyweddod Megan ddim. Roedd hi’n mwynhau’r tywydd braf ac ei hamser rhydd a doedd hi ddim ar ddadlau gyda’i brawd.

‘Beth am dy ffrindiau?’

‘Nid fy ffrindiau ydyn nhw,’ meddai Owen yn frathog. ‘Nid ar ôl yr hyn a ddigwyddodd. Roedd ein teulu’n gwarchod y pannas ‘na -’

‘- am ganrifoedd…’ gorffennodd hi. ‘Wyddest ti, dwi’n hapus ei bod hi wedi digwydd fel hynny. Ro’n i’n gweld eisiau di a’th biwisrwydd.’

‘Wrth gwrs dy fod ti’n hapus. Cest ti dy gyfle i fwyta’r panasen ‘na…’

Arhosodd nhw’n ddistaw am ryw amser. Roedd yr eglwyswyr wedi mynd i mewn i’r capel a mynd â’r sŵn gyda nhw. Roedd Megan erioed wedi teimlo llonydd fel hyn.

Ffroenodd Owen eto.

‘Beth oedd dy dymuniad di bryd hynny?’

‘Ugain mlynedd yn ôl?’

‘Ie.’

Edrychodd Megan ar ei chi a orweddai’n dawel wrth ei thraed a gwenu.

‘Gofynnais am ffrind.’

***

Roedd Dylan yn teimlo’n well. Roedd Gareth wrth ei fodd pan dysgodd o ei fod e’n fyw a galwai heibio i’w ward yn yr ysbyty yn amlach na’r nyrsys, yn enwedig ar ôl i Dylan ddod ato ei hun o’r diwedd. Ar y dechrau, doedden nhw ddim hyn yn oed yn gallu siarad â’i gilydd oherwydd y hapusrwydd ac oherwydd fod Dylan yn rhy wan. Ond wrth iddo wella, dechreuodd i boeni Gareth â’i gwesiynau. Ac nid oedd Gareth yn mwynhau hynny, doedd e ddim yn awyddus i ddweud y cwbl wrtho eto.

‘Celwydd noeth, Gareth,’ meddai Dylan’n siriol o’i wely. Gorchuddodd rhwymyn llydan ei ysgwydd chwith ond doedd e ddim yn edrych yn sâl bellach. Roedd yn edrych yn berffaith, fel arfer, meddyliodd Gareth yn grac.

‘Nac ydy. Llewgais oherwydd y gwaed i gyd ‘na, deffrais yn yr ysbyty. Dyna’r stori.’

Edrychodd Dylan arno fo’n dreiddgar.

‘Pam nad yw Owen wedi ymweld â fi?’

Cododd Gareth ei ysgwyddau.

‘Oherwydd y gwaith?’

‘Dydd Sul yw hi. Fi yw ei ffrind gorau yn y dre ‘ma.’

‘Ti’n siwr?’

‘Gareth! Beth digwyddodd?’ gofynnodd Dylan yn ddiamynedd. ‘Rhaid i fi wybod hynny, ro’n i’n rhan o broffwydoliaeth pannas Owen,’ ffrwcsiodd ar ôl ddweud hynny. ‘Neu rhywbeth.’

Meddyliodd Gareth dros hynny. Roedd e wedi dinistrio pannas Owen a’r cyfeillgarwch rhwng Dylan ag Owen gyda nhw, mwy na thebyg. Efallai, fe oedd rhaid iddo fe ddweud y gwir.

‘Dylan…’ dechreuodd yn ansicr. ‘Wn i ddim am Owen, ond rwyt ti’n gwybod ti fod yn bwysig iawn i fi, on’d wyt ti?’

Cyffyrddodd Dylan â’i fraich ac yn awr fe neidiodd Gareth ar ei gadair.

‘Dwi’n gwybod, Gareth. Ti’n bwysig iawn i fi hefyd,’ meddai Dylan yn ddifrifol.

Gwridodd Gareth at ei glustiau.

‘Wel,’ meddai drachefn, ‘diolch. Beth bynnag, pan cwympaist ti ro’n i’n meddwl di fod ti’n mynd i farw. Ro’t ti’n gwaedu ym mhobman, roedd hi braidd yn ddychrynllyd… A ni wyddwn i beth i’w wneud…’ petrusodd.

‘A gwnest ti fwyta panasen,’ ebychodd Dylan.

‘A gwnes i fwyta’r pannas i gyd,’ meddai Gareth.

‘I… i gyd? Ond beth am deulu Owen -’

‘Nes i fynd i banic! Ac nid dyma’r peth gwaetha,’ doedd Gareth ddim am siarad am hynny, ond nawr ar ôl iddo ddechrau dweud y gwir ni allai stopio. Cudiodd ei wyneb â’i ddwylo. ‘Gwnes i geisio eu bwyta nhw, ond… dwedodd un o’r meddygon yma bod anoddefiad pannas gyda fi. Beth ar y ddaear yw anoddefiad pannas? Ac roedd y pannas penodol ‘na’n hen ac yn ddrwg dros ben. Dwedodd Owen fy mod yn chwydu’n ddi-dor. Ond ro’n i’n teimlo’n ofnadwy a dwi ddim yn cofio un rhan ohoni… Fasai fo ddim yn maddau i fi am hynny i gyd …’

Eisteddon nhw’n ddistaw.

‘Ond… Dwi’n byw nawr…’ dechreuodd Dylan.

‘Diolch i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,’ meddai Gareth yn angerdd. ‘Cyrhaeddon nhw’n gyflym iawn.’

‘Yn wir…’ oedodd am funud ac wedyn dechreuodd cilchwerthin. Edrychodd Gareth arno’n syn. ‘Ro’n ni’n siarad â duwiau trwy bysgod, Gareth! A ches i fy saethu. Ac mae gen ti anoddefiad pannas. Mae rhywbeth yn bod ar y byd…’ tawelodd a meddyliodd. ‘Rhaid i ni ddathlu,’ meddai’n benderfynol.

‘Beth?’

‘Dwi’n byw ac yn iach a rwyt ti’n byw ac yn iach a dylen ni ddathlu hynny. Ar ôl iddyn nhw fy rhyddhau o’r ysbyty ‘ma dylen ni fynd i fwyty i ddathlu. Beth am y Ddraig Goch?’

‘Y Ddraig Goch a oedd ar y teledu’n ddiweddar?’

‘Ie, gaeth eu camera cyflymder ei gnoi gan racŵn neu rhywbeth…’

Gwenodd Gareth fel giât.

***

Roedd Celyn yn mwynhau ei harestiad tŷ’n aruthrol. Teimlai’n rhydd ac yn llon heb lleisiau duwiau’r môr yn ei phen (gwnaeth yn siŵr na fasen nhw’n dod yn ôl trwy ddefnyddio llawer o arogldarth). A theimlai’n fwy defnyddiol o lawer. Yn y bore ysgrifennodd lythrennau at Morgan yn y carchar ac wedyn gwnaeth ei hymchwil ar y we. Er mawr syndod iddi, darganfodd fod yna lawer o bobl flin eraill ar y we a oedd eisiau amddiffyn y môr - Y Môr ei hun, dim duwiau’r môr gwreig-gasaol. Gwnaeth ei hymchwil, darllennodd y papurau gwyddonol, ysgrifennodd yn ei blog amgylcheddol newydd a mynd yn gyfail i actifyddion.

Ni fasai o dan arestiad tŷ am byth. A phan fyddai hi’n rhydd, fel ymgyrchydd byddai hi’n effeithiol iawn.

 

 

Notes:

Wrth gwrs mae Megan wedi dwyn rhai o'r pannas ac yn awr bydd ei chi'n byw am byth. Da iawn, Megan!
--
This thing was supposed to be precisely one page long. Thanks for reading!